| DOLENNI
-
GWESTY GWLEDIG MEIFOD . BONTNEWYDD . CAERNARFON . GWYNEDD . LL55 2TY . 01286 673351
--
 
.

PRIODI YM MEIFOD

Croeso i un o leoliadau priodas mwyaf unigryw a moethus yng Ngogledd Cymru.

Ty gwledig traddodiadol, wedi ei leoli mewn gerddi hardd a helaeth yw Meifod. mae'n lle delfrydol ar gyfer eich achlysur arbennig boed hynny'n gyfarfod bach ymysg ffrindiau neu'n barti llawer iawn mwy. Mae Lilian a'r tîm ar gael i gynnig eu profiad a'u cymorth wrth drefnu eich priodas i sicrhau y bydd eich diwrnod mawr yn un bythgofiadwy.

Mae Meifod yn dal trwydded Priodasau Sifil ar gyfer hyd at 120 o westai yn yr Orendy

. Ffurflen Holi am Becyn Priodas    



.

Y SAFON UCHAF

Gallwn ddelio â hyd at 160 o bobl ar gyfer brecwast priodas. Os yw eich priodas yn fwy gallwn drefnu pafiliwn marcî moethus ar y lawnt tu allan i ddal hyd at 350 o bobl.

Gyda'r nos gallwn dderbyn hyd at 220 o westeion, heb sôn am y marcî sy'n dal 400. Gyda bwyd da yn flaenoriaeth ym Meifod gallwch ddisgwyl bwyd o'r safon uchaf wedi ei wneud o gynnyrch ffres wedi ei wneud ym Meifod gan dîm gwych o gogyddion.

Os ydych yn dewis y fwydlen osodedig neu eisiau creu bwydlen eich hun cysylltwch â'n prif gogydd i drafod eich anghenion ar gyfer y diwrnod mawr.

   
   
-
   
© Gwesty Gwledig Meifod 2007