CYNHADLEDDAU YM MEIFOD
Wedi ei leoli mewn gerddi aeddfed a helaeth mae Meifod yn westy unigryw a moethus. Mae'n ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd a chynadleddau busnes y tu allan i'r dref ac mae'n cynnig digon o le parcio i bawb.
Prif nod ein tîm yma ym Meifod yw sicrhau bod eich cynhadledd, boed yn fawr neu'n fach, yn broffesiynol ac yn rhedeg yn llyfn. Gallwn gynnig offer o bob math yn cynnwys taflunwyr, sustem sain, offer teledu a fideo, siartiau ysgrifennu ynghyd â chysylltiad â'r we. Mae modd teilwra unrhyw gyfarfod neu gynhadledd i'ch anghenion arbennig.
Mae gennym ddewis eang o fwydydd o brydau sylweddol i ginio ysgafn neu bwffé anffurfiol.
Rydym yn cynnig gwasaneth proffesiynol i bob cyfarfod neu gynhadledd a gallwn deilwra'r trefniadau i'ch anghenion chi. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â'n Cydlunwyr Cynhadledd. |