| |
 |
CROESO I WESTY MEIFOD
Gwesty Gwledig moethus yw Meifod sy'n cael ei redeg gan deulu agos. Mae'n gyfuniad o naws traddodiadol ac oes a fu ond yn gyfoes ei agwedd tuag at y gwasanaeth a safonau y mae'n ei gynnig.
Adeiladwyd Meifod yn y cyfnod Edward gan y teulu enwog Brymer. Trefor Brymer, fel ei dad o'i flaen, oedd Uchel Siryf Caernarfon. Roedd yn asiant i Lloyd George y Prif Weinidog a arhosodd ym Meifod ar sawl achlysur.
Ychydig dros filltir o Dref Frenhinol Gaernarfon mae Meifod, tref sy'n dyddio'n ôl i gyfnod y rhufeiniaid. Yma yng nghsatell Caernarfon arwisgwyd Charles yn Dywysog Cymru. Ychydig filltiroedd i ffwrdd mae harddwch Eryri ac arfordir godidog Gogledd Cymru. |
|
|
 |
LLEOLIAD YSBLENNYDD
O amgylch y ty hardd hwn mae gerddi aeddfed a helaeth gyda sawl rhan o'r hen erddi'n dal i'w gweld. Mae'r Orendy moethus yn cael ei ystyried yn un o'r lleoliadau mwyaf poblogaiodd ar gyfer priodasau yng ngogledd Cymru.
Mae dewis eang o brydau bwyd ym Meifod o brydau wrth y bar i fwydlen a lá carte. Gallwch fwyta yn y ty bwyta ei hun, yn yr Orendy neu tu allan yn ein gerddi hardd. Mae'r Llyfrgell hefyd yn ddelfrydol i ymlacio ar ddiwedd diwrnod prysur a blinedig.
Y tu cefn i'r gwesty ger y ffownten a'r Pergola mae gennym lawntiau tenis a croque i'ch cadw'n ddiddig.
|
|